Gwasanaethau Cyfreithiol | Legal Services

NODYN CYNGOR CYFREITHIOL I'R PWYLLGOR IECHYD, GOFAL CYMDEITHASOL A CHWARAEON ("y Pwyllgor")

DEDDF CYDRADDOLDEB 2010 A GWAHANU AR SAIL RHYW MEWN CHWARAEON YN YR YSGOL

 

Mae'r nodyn cyngor cyfreithiol hwn yn nodi'r amgylchiadau y gellir caniatáu arwahanu ar sail rhyw mewn chwaraeon yn yr ysgol.

Deddf Cydraddoldeb 2010 ("Deddf 2010")

Mae Deddf 2010 yn gwahardd gwahaniaethu ynghylch mynediad at fuddion, cyfleusterau a gwasanaethau. Fodd bynnag, mae chwaraeon cystadleuol wedi'u heithrio rhag rhai agweddau ar Ddeddf 2010, gan gynnwys gwahaniaethu mewn gweithgareddau yr effeithir arnynt gan rywedd.

Mae Adran 195 o Ddeddf 2010 yn caniatáu chwaraeon ar gyfer un rhyw yn unig, ac mae'n berthnasol i unrhyw chwaraeon neu gêm, neu weithgarwch cystadleuol arall, lle byddai cryfder corfforol, stamina neu gorffolaeth y fenyw (neu ferch) gyffredin yn ei rhoi dan anfantais wrth gystadlu â'r dyn (neu fachgen) cyffredin.

Hefyd, mae adran 195(4) o Ddeddf 2010 yn nodi:

“in considering whether a sport, game or other activity is gender-affected in relation to children, it is appropriate to take account of the age and stage of development of children who are likely to be competitors”.

Felly, yng nghyd-destun ysgolion, byddai'r eithriad hwn yn caniatáu cynnal chwaraeon ar gyfer un rhyw yn unig ymhlith plant hŷn gan y gellid ystyried hynny'n gyfiawnhad gwrthrychol a/neu gymesur oherwydd y gwahaniaeth mewn cryfder/corffolaeth cyfartalog rhwng rhywiau. Gallai fod yn llai hawdd i'w gyfiawnhau ar gyfer plant iau, hynny yw babanod nad ydynt fel rheol yn cael eu harwahanu ar gyfer gweithgareddau corfforol. Er gwaethaf hyn, mae'n dal yn bosibl y gellir cyfiawnhau arwahanu plant iau. Byddai'n rhaid cynnal asesiad fesul achos.

Er y byddai adran 195 yn caniatáu i ysgol gymysg gael tîm pêl-droed ar gyfer bechgyn yn unig, o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 byddai'n dal yn rhaid i ysgol ganiatáu i ferched gael cyfle cyfartal i allu cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon cyffelyb. Byddai'n anghyfreithlon hefyd i ysgol wahaniaethu wrth drin un grŵp (e.e. merched) yn llai ffafriol na grŵp arall (e.e. bechgyn), drwy ddarparu adnoddau llawer gwell i dîm hoci neu griced y bechgyn o gymharu ag adnoddau tîm y merched.

Hyd yma, ni adroddwyd unrhyw achosion mewn perthynas ag arwahanu ar sail rhyw mewn chwaraeon yn yr ysgol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Cymhwysedd deddfwriaethol

O dan Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, nid oes gan y Cynulliad gymhwysedd i addasu darpariaethau o Ddeddf 2010 mewn perthynas â'r mater penodol hwn. Mae'n fater sydd wedi'i gadw yn ôl gan Senedd y DU.

 

Y Gwasanaethau Cyfreithiol

Rhagfyr 2018